Adroddiad arolwg ar-lein IIP40
Amgueddfa Cymru
Cynhaliwyd gan: Sarah Botterill
Rhif y project: WAL-17-00543
IiP40 swyddogol a gynhaliwyd gan
Buddsoddwyr mewn Pobl
157-197 Buckingham Palace Road,
Llundain, SW1W 9SP
+44 (0) 300 303 3033
Investors in People Community Interest Company (a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr â rhif cwmni cofrestredig 10420361) yw perchennog brand, nodyn masnach, methodoleg ac asedau Buddsoddwyr mewn Pobl. Darperir Safon Buddsoddwyr mewn Pobl a’r cynnyrch cysylltiedig gan Investors in People Community Interest Company.
© 2017 Diogelir cynnwys y cynnig hwn, enw, dyluniadau, marc a logo Buddsoddwyr mewn Pobl dan gyfraith hawlfraint a chyfraith hawlfraint ryngwladol. Dylid ystyried yr adroddiad hwn yn fasnachol gyfrinachol. Cydnabyddir Investors in People Community Interest Company fel Rheolwr y Data yng nghyd-destun yr holl ddata mewn perthynas â Buddsoddwyr mewn Pobl.
Cynnwys
Dangosydd 1: Arwain ac ysbrydoli pobl
Dangosydd 2: Byw’n unol â gwerthoedd ac ymddygiadau’r sefydliad
Dangosydd 3: Grymuso a chynnwys pobl
Dangosydd 4: Rheoli perfformiad
Dangosydd 5: Cydnabod a gwobrwyo perfformiad da
Dangosydd 6: Strwythuro gwaith
Dangosydd 8: Cyflawni gwelliant parhaus
Dangosydd 9: Creu llwyddiant cynaliadwy
Buddsoddwyr mewn Pobl (IiP) yw’r safon fyd-eang ar gyfer rheoli pobl. Trwy ddefnyddio arolwg ar-lein IiP40 caiff sefydliadau’r cyfle i glywed safbwyntiau gweithwyr a deall perfformiad gan gynnwys cryfderau a gwendidau. Anfonwyd yr arolwg ar-lein at holl safleoedd ac amgueddfeydd Amgueddfa Cymru.
Mae Amgueddfa Cymru yn gorff aml-safle sy’n cynnwys y pencadlys yng Nghaerdydd, amgueddfeydd ar draws Cymru a’r Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol yn Nantgarw:
· Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
· Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd
· Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe
· Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon
· Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis
· Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion
· Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre
Mae Amgueddfa Cymru yn cyflogi dros 700 o bobl mewn amrywiaeth o rolau arbenigol ac sy’n ymdrin â chwsmeriaid, yn ogystal â rolau gwasanaethau cymorth proffesiynol. Y Cyfarwyddwr Cyffredinol a’r Cyfarwyddwyr gweithredol sy’n arwain y corff, gyda Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn darparu llywodraethiant.
Cwblhaodd
Amgueddfa Cymru arolwg ar-lein IiP40 yn ystod mis Mehefin 2018 a
hynny er mwyn deall safbwyntiau cydweithwyr ar draws y corff.
Gwnaed gwaith cynghorol sylweddol hefyd, a chynhaliwyd gweithdai
mewn amryw safleoedd i esbonio Fframwaith Buddsoddwyr mewn Pobl a
thrafod y dull a ddefnyddir. Bydd yr arolwg hwn yn cael ei
ddefnyddio i lywio gweithgarwch gwella parhaus cyn cynnal asesiad
‘Insights’ ym mhob amgueddfa ar y cyd (yn hanesyddol,
mae nifer o’r amgueddfeydd wedi cynnal asesiad ac achrediad
IiP yn annibynnol).
Mae’r tabl isod yn dangos llinell amser cwblhau’r
arolwg ar-lein:
Dyddiad dechrau’r arolwg |
Dyddiad cau’r arolwg |
Dyddiad dadansoddi’r arolwg |
4 Mehefin 2018 |
29 Mehefin 2018 |
16 Gorffennaf 2018 |
Mae’r
tabl isod yn dangos prif ystadegau’r asesiad
ar-lein:
Cyfanswm nifer y gweithwyr |
Sampl yr arolwg ar-lein |
Ymatebion a ddaeth i law |
Cyfradd ymateb |
728 |
687 |
475 |
69% |
Er mwyn cadw a datblygu’r dystiolaeth o’r arolwg ar-lein hwn, rhaid cwblhau asesiad llawn o fewn 6 mis i ddyddiad yr arolwg ar-lein. Mae’r tabl isod yn cadarnhau’r dyddiad cwblhau ar gyfer eich sefydliad.
Dyddiad cau’r arolwg ar-lein |
Gellir cadw’r dystiolaeth tan (6 mis) |
29 Mehefin 2018 |
29 Rhagfyr 2018 |
Dadansoddiad
Data’r gyfradd ymateb
Mae’r gyfradd ymateb, sef 69%, yn uwch na chyfradd ymateb gyfartalog cyrff eraill yn y band cyflogwr hwn, sy’n ddangosydd da o ymgysylltiad cydweithwyr.
Yn y dadansoddiad dangosyddion isod, ystyrir ateb yn gytundeb os nodir ‘cytuno’n gryf’ a ‘cytuno’.
Trosolwg o’r crynodeb
Dangosydd 1: Arwain ac ysbrydoli pobl
Dangosydd 2: Byw’n unol â gwerthoedd ac ymddygiadau’r sefydliad
Dangosydd 3: Grymuso a chynnwys pobl
Dangosydd 4: Rheoli perfformiad
Dangosydd 5: Cydnabod a gwobrwyo perfformiad da
Dangosydd 6: Strwythuro gwaith
Dangosydd 7: Meithrin gallu
Dangosydd 8: Cyflawni gwelliant parhaus
Dangosydd 9: Creu llwyddiant cynaliadwy
O ystyried y grwpiau a ddewiswyd, nid oes anghydweld mawr yn y safbwynt positif rhwng y grwpiau. Yn yr un modd, nid oes un grŵp sy’n cofnodi’r safbwynt positif isaf nac uchaf yn gyson ar draws y 9 dangosydd.
O ystyried y safbwynt positif a nodwyd (‘cytuno’n gryf’ a ‘cytuno’), y dangosyddion canlynol sy’n derbyn y lefelau isaf ac uchaf o safbwynt positif:
· Uchaf = dangosydd 6, strwythuro gwaith (safbwynt positif o 60.3%)
· 2il uchaf = dangosydd 4, rheoli perfformiad (safbwynt positif o 56.8%)
· 3ydd uchaf = dangosydd 8, cyflawni gwelliant parhaus (safbwynt positif o 54.8%)
· Isaf = dangosydd 1, arwain ac ysbrydoli pobl (safbwynt positif o 27.8%)
· 2il isaf = dangosydd 5, cydnabod a gwobrwyo perfformiad da (safbwynt positif o 29.3%)
· 3ydd isaf = dangosydd 7, meithrin gallu (safbwynt positif o 37.5%)
Dyma sgôr y 3 dangosydd sy’n weddill:
· Dangosydd 3, grymuso a chynnwys pobl (safbwynt positif o 50.3%)
· Dangosydd 9, creu llwyddiant cynaliadwy (safbwynt positif o 46.1%)
· Dangosydd 2, byw’n unol â gwerthoedd ac ymddygiadau’r sefydliad (safbwynt positif o 41.3%)
O ystyried y themâu o fewn pob dangosydd, dylai’r themâu a sgoriodd isaf (gweler y graffigyn ar dudalen 7) fod yn sail i ffocws y gwelliant parhaus:
· Datblygu’r gallu i arwain (dangosydd 1)
· Sicrhau tryloywedd ac ymddiried (dangosydd 1)
· Llunio dull i gydnabod a gwobrwyo llwyddiant (dangosydd 5)
· Cydnabod a gwobrwyo pobl (dangosydd 5)
· Sicrhau fod y person cywir yn y lle cywir ar yr adeg gywir (dangosydd 7)
Ar nodyn mwy positif, sgoriodd y datganiad ‘mae fy sefydliad yn lle gwych i weithio’ safbwynt positif o 55.6%.
Argymhellion a chamau nesaf
Gall Amgueddfa Cymru fod yn falch o gyfradd ymateb arolwg ar-lein IiP40, gan fod y gyfradd uwch na’r cyfartaledd yn awgrymu ymgysylltiad gan gydweithwyr sydd wedi rhoi o’u hamser i nodi’u hymatebion.
Data meintiol yn unig a ddarperir trwy’r arolwg ar-lein a all gynorthwyo’r Ymarferydd i ddod i gasgliad am y tebygolrwydd o gyrraedd y Safon adeg yr asesiad llawn. Mae’r cyfweliadau, grwpiau ffocws, arsylwadau a’r ymarfer pen desg yn allweddol er mwyn cadarnhau lefel y dyfarniad felly nid yw’r adroddiad hwn yn gwarantu y cyrhaeddir lefel dyfarniad penodol. Felly, baromedr yn unig yw’r erfyn diagnostig hwn i roi gwybodaeth i gorff am waith paratoi sydd angen ei wneud.
Mae’r ymarferiad IiP40 hwn wedi tynnu sylw at rai meysydd datblygu y dylai Amgueddfa Cymru eu cwblhau cyn cynnal yr asesiad.
Yn amlwg, data meintiol sydd yma a gellid cael darlun lawn a thrafodaeth trwy gynnal asesiad ‘Insights’. Gellid gwella ar hyn trwy gymharu â’r data gwaelodlin yma.
Fel y nodwyd eisoes, dylai’r themâu a sgoriodd isaf (gweler y graffigyn ar dudalen 7) fod yn sail i ffocws y gwelliant parhaus:
· Datblygu’r gallu i arwain (dangosydd 1) – dylid ystyried sut y gall pawb yn Amgueddfa Cymru (gan gynnwys arweinwyr ar bob lefel ym mhob rhan o’r corff) fod yn glir am eu disgwyliadau o’u harweinwyr ac y rhoddir canllawiau clir a chefnogaeth i arweinwyr ddiwallu eu rolau.
· Sicrhau tryloywedd ac ymddiried (dangosydd 1) - gellid ystyried lefelau uwch o ymgysylltu a chyfathrebu, ar draws holl leoliadau daearyddol Amgueddfa Cymru. Dylai pob arweinydd sicrhau ei fod yn arddangos yr ymddygiadau a ddisgwylir ar bob adeg yn esiampl i eraill.
· Llunio dull i gydnabod a gwobrwyo llwyddiant (dangosydd 5) a chydnabod a gwobrwyo pobl (dangosydd 5) – yn amlwg, mae cyfyngiadau ariannol ar gorff dan nawdd cyhoeddus ond gellid ystyried sut i wella cydnabyddiaeth nad yw’n ariannol. Trwy ymgynghori â chydweithwyr, mae’n bosibl y daw syniadau newydd i’r fei ym maes cydnabyddiaeth e.e. mae rhai cyrff bellach yn cynnig y dewis i weithwyr gymryd rhagor o wyliau yn lle cyflog.
· Sicrhau fod y person cywir yn y lle cywir ar yr adeg gywir (dangosydd 7) – mae’r arolwgyn awgrymu canfyddiad nad yw recriwtio yn dryloyw; gellid ystyried sut y gall mewnbwn ehangach gan randdeiliaid gyfrannu at weithgarwch recriwtio.
Dull o gasglu adborth gan bob gweithiwr cyn rhoi cynllun gweithredu ar waith yw arolwg ar-lein IiP40. Dylai cynnwys pawb yn y gweithredu arwain at lefel uwch o ymgysylltiad.